September 29, 2026 

Yn barod i gychwyn? Mae diweddariad mis Medi yn cynnwys llwybrau amgen gwell, gosodiad i optimeiddio trefn arosfannau'r llwybr, marciau cliriach ar gyfer ardaloedd dŵr ysbeidiol, ac eicon llygad i guddio traciau unigol, ynghyd â llawer o drwsiadau a gwelliannau eraill (gweler isod).

Gosoda neu ddiweddara Organic Maps drwy https://get.omaps.org, yr App Store, Google Play, Huawei AppGallery, Obtainium, Accrescent neu F-Droid.

Os wnest ti fethu ein diweddariadau blaenorol, edrycha ar y nodweddion a ryddhawyd ym mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Diolch i’n cyfranwyr a’n defnyddwyr a wnaeth y diweddariadau hyn yn bosibl!

Sut i gefnogi Organic Maps

  • Rho rodd i gefnogi datblygiad a thalu costau cynnal y mapiau
  • Anfon dy adborth a chyfranna at y prosiect
  • Ymuna â’r profion beta i roi cynnig ar nodweddion newydd yn gynnar ac adrodd am broblemau ar iOS, Android a chyfrifiaduron
  • Lledaena’r gair a helpa ni i adeiladu dewis gwell yn lle mapiau’r cwmnïau technoleg mawr!

Nodiadau rhyddhau

Map

  • Data OpenStreetMap o 28 Medi 2026
  • Data Wicipedia o 21 Medi 2026
  • Trwsiwyd chwiliadau pan fydd ardal weladwy’r map yn croesi’r meridian 180° (±180° hydred) (Viktor Govako)
  • Mae ardaloedd dŵr ysbeidiol bellach yn cael eu dangos gyda phatrwm dotiau, yn debyg i'r un a ddefnyddir ar gyfer tywod (Alexander Borsuk)
  • Mae cronfeydd dŵr bellach yn weladwy wrth chwyddo allan ymhellach (Alexander Borsuk)
  • Nid yw twneli dŵr yn cael eu dangos ar y map mwyach (Alexander Borsuk)
  • Diwygiwyd eiconau gorsaf a mynedfa Metro Suzhou (Alexander Borsuk)
  • Datryswyd achosion prin lle'r oedd labeli'n symud allan o'u lle ar haen map y metro (Viktor Govako)

Cynllunio llwybrau a llywio

  • Gwell llwybrau amgen a'u hamseroedd cyrraedd amcangyfrifedig (Alexander Borsuk, Viktor Govako)
  • Mae'r llwybr amgen a ddewiswyd bellach yn cael ei gadw pan fydd y llywio'n ailgyfrifo'r llwybr (Alexander Borsuk)
  • Mae trefn arosfannau'r llwybr bellach wedi'i hadfer ar ôl ailgychwyn yr ap (Kiryl Kaveryn)

Gwelliannau eraill

  • Mae oriau agor bellach yn dangos ‘Canol dydd’ ar gyfer 12:00 a ‘Canol nos’ ar gyfer 00:00 neu 24:00 (Alexander Borsuk)
  • Trwsiwyd bygiau a gwellwyd recordio traciau (Alexander Borsuk)
  • Trwsiwyd mewnforio ffeiliau KMB (Alexander Borsuk)
  • Cyfieithiadau Ffrangeg ac Astwrianeg wedi'u cywiro (Alexander Borsuk)
  • Cywirwyd gwall teipio yn Saesneg (Carl Morris)

iOS

  • Ychwanegwyd eicon llygad i guddio traciau unigol (Kiryl Kaveryn)
  • Ychwanegwyd botymau i ychwanegu neu amnewid arosfan mewn llwybr wedi’i gynllunio (Kiryl Kaveryn)
  • Ychwanegwyd gosodiad i optimeiddio trefn yr arosfannau canolradd ar y llwybr (Kiryl Kaveryn)
  • Ychwanegwyd cyfarwyddiadau ar gyfer symudiadau llywio at arddangosfeydd pen-i-fyny (HUDs) cydnaws mewn ceir a dangosfwrdd CarPlay (Kiryl Kaveryn)
  • Trwsiwyd botymau CarPlay a’r chwilio (Alexander Borsuk)
  • Atgyweirwyd amryw o fygiau a gwellwyd y rhyngwyneb defnyddiwr (Kiryl Kaveryn, Alexander Borsuk)
  • Ychwanegwyd cefnogaeth i ddewis llais llywio sydd wedi’i osod a gwrando ar sampl ohono (Kiryl Kaveryn, Alexander Borsuk)
  • Adferwyd chwilio yn ôl categori yn Spotlight (Kiryl Kaveryn)

Android

  • Ychwanegwyd gosodiad i optimeiddio trefn yr arosfannau canolradd ar y llwybr (Mikhail Listratsenka)
  • Ychwanegwyd botymau i ychwanegu neu amnewid arosfan mewn llwybr wedi’i gynllunio (Mikhail Listratsenka)
  • Ychwanegwyd y gallu i atal recordiad trac a chadw'r trac o'r hysbysiad (Alexander Borsuk)
  • Mae’r botwm ‘Ychwanegu arosfan’ bellach yn ychwanegu arosfan ar ôl yr arosfannau presennol, cyn y gyrchfan (Mikhail Listratsenka)
  • Uwchlwythiadau gwell o'r golygydd OpenStreetMap (Owm)
  • Diweddarwyd dyluniad y rhyngwyneb defnyddiwr (Mikhail Listratsenka)
  • Mae'r golygydd nodau tudalen a deialogau eraill bellach yn aros ar agor wrth lywio (Mikhail Listratsenka)
  • Trwsiwyd rendro’r siart uchder ar gyfer traciau gwastad ac mewn rhyngwynebau o’r dde i’r chwith (Mikhail Listratsenka)
  • Trwsiwyd y broblem lle roedd bariau’r system yn torri botymau’r map i ffwrdd (Mikhail Listratsenka)
  • Atgyweirwyd bygiau a gwellwyd cefnogaeth i Android Auto (Andrei Shkrob)
  • Trwsiwyd chwalfa wrth rendro’r map (Viktor Govako)

Bwrdd gwaith

  • Ailenwyd y ffeil weithredadwy bwrdd gwaith a'r bwndel ap macOS i OrganicMaps (Alexander Borsuk)
  • Datryswyd problemau yn ap Windows (Osyotr, Alexander Borsuk)
  • Mae’r opsiwn --lang ar y llinell orchymyn bellach yn diystyru gosodiad iaith yr ap (Alexander Borsuk)

Gyda llawenydd ac angerdd,

Dy dîm Organic Maps

Optimeiddio llwybrau, gwell llwybrau amgen, cuddio traciau unigol, ac ardaloedd dŵr ysbeidiol yn niweddariad Medi 2026 Optimeiddio llwybrau, gwell llwybrau amgen, cuddio traciau unigol, ac ardaloedd dŵr ysbeidiol yn niweddariad Medi 2026 Optimeiddio llwybrau, gwell llwybrau amgen, cuddio traciau unigol, ac ardaloedd dŵr ysbeidiol yn niweddariad Medi 2026 Optimeiddio llwybrau, gwell llwybrau amgen, cuddio traciau unigol, ac ardaloedd dŵr ysbeidiol yn niweddariad Medi 2026 Optimeiddio llwybrau, gwell llwybrau amgen, cuddio traciau unigol, ac ardaloedd dŵr ysbeidiol yn niweddariad Medi 2026 Optimeiddio llwybrau, gwell llwybrau amgen, cuddio traciau unigol, ac ardaloedd dŵr ysbeidiol yn niweddariad Medi 2026